

Mae Eco-Scope Cyf. yn falch iawn o gefnogi’r dathliadau ddydd Sadwrn, 8 Awst 2026, i nodi 200 mlynedd ers agor Pont Porthaethwy.
Bydd y digwyddiad am ddim i bawb, a drefnir gan Gyngor Tref Porthaethwy, yn cael ei gynnal rhwng 11:00 a 19:00 a bydd yn cynnwys:
- Gorymdaith seremonïol i nodi’r foment hanesyddol pan gwblhawyd y bont
- Llwyfan ŵyl a cherddoriaeth fyw, gan gynnwys y band carnifal lleol, Batala Bangor
- Stondinau
- Teithiau cerdded
- Rali hen gerbydau
Stondinau gyrfaoedd a gweithgareddau peirianneg – gyda Diwrnod Canlyniadau Safon Uwch yn cael ei gynnal ddydd Iau, 13 Awst, pa amser gwell i ddarganfod y cyfleoedd gyrfaol sydd ar gael ym maes peirianneg yng nghanol tirwedd brydferth Gogledd Cymru?
P’un a oes gennych ddiddordeb yn hanes peirianneg a thechnoleg pontydd, neu os ydych yn awyddus i gael ychydig o awyr iach a mwynhau’r adloniant, bydd rhywbeth at ddant pawb yn ystod y diwrnod!
Gobeithiwn eich gweld chi yno.
…………………………….
Eco-Scope Ltd. are delighted to be supporting the celebrations on Saturday 8th August6 2026 to mark the Menai Suspension Bridge turning 200 years old. Running from 11:00 – 19:00, this free event organised by Menai Bridge Town Council will consist of:
- A ceremonial procession to mark the historic moment the bridge was completed
- A festival stage & live music, including local carnival band Batala Bangor
- Stalls
- Walking tours
- A vintage rally
- Careers stalls & engineering activities – with A Level Results Day occurring on Thursday 13th August, what better time to explore the career opportunities of engineering in the picturesque landscape of North Wales?
Whether you’re interested in the history of bridge engineering & technology or just fancy some fresh air with some entertainment, this day has something for everyone!
We hope to see you there.
